O fewn i'r anial dyrys maith,
Yn dysgwyl hyfryd ben fy nhaith:
'Rwy'n gwel'd yn wir,
'rwy'n gwel'd yn wir,
Yr oriau'n hîr, heb dy fwynhau.
Yn nyfnder pob rhyw drallod, mae
Un radd o'th wedd yn llawenhau:
Dyddanwch sy, dyddanwch sy,
Yn d'wyneb cu,
sydd fwy na'r byd.
Mwy yw fy mhleser, mwy fy rhodd,
A mwy mae f'enaid wrth ei fodd,
I wel'd dy wedd, i wel'd dy wedd,
A phrofi'th hedd,
na'r byd i gyd.
Ffarwel i oll feddyliau i fod,
Yn hyfryd yma îs y rhôd;
Nid da, nid dyn,
nid da, nid dyn,
Ond Iesu ei hun,
sy'n fwy na'r nef.
William Williams 1717-91
[Mesur: MH 8888] gwelir: Rho im' yfed dyfroedd gloyw clir Tydi fy Nuw Tydi i gyd Yn mhell uwch swn daearol fyd |
Within the vast, troublesome desert,
Awaiting my journey's delightful end:
I am seeing truly,
I am seeing truly,
The hours as long, without enjoying thee.
In the depth of every kind of trouble, any
Degree of thy countenance is cheering:
Comfort that is, comfort that is
In thy dear face,
is greater than the world.
Greater is my pleasure, greater my gift,
And greater is my soul delighted,
To see thy face, to see thy face,
And experience thy peace,
than all the world.
Farewell to all thoughts supposed to be
Delightful here below the sky;
Neither goods nor man,
neither goods nor man,
But Jesus himself,
is greater than heaven.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|